Ann Davies

Liz Saville Roberts

Facebook Twitter Instagram E-mail 

Ann Davies yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Caerfyrddin.

Cafodd Ann Davies ei geni a’i magu yn Sir Gaerfyrddin ac mae wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir dros Ward Llanddarog ers 2017 ac fel Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio ers 2021.

Yn gyn-ddarlithydd mewn addysg blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn gyn-athrawes gerdd peripatetig, mae Ann yn gydberchennog meithrinfa leol i blant ac mae wedi ffermio yn ardal Llanarthne ers 1992. Mae Ann wedi ennill enw da fel ymgyrchydd gweithgar yn lleol, yn gwasanaethu fel cadeirydd sirol i undeb ffermio, ac fel llais amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn peilonau ar hyd Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Ann yn gyffrous am yr ymgyrch a’r cyfle i fod allan yn siarad â chymaint o bobl â phosibl ar hyd a lled yr etholaeth, yn gwrando ar y materion sy’n effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd, ac yn rhannu neges gadarnhaol Plaid Cymru dros degwch ac uchelgais.

Bydd sedd newydd Caerfyrddin yn uno rhannau o etholaethau presennol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro – a bydd yn ymestyn o Hendy-gwyn ar Daf i Ddyffryn Aman.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.