Ar ddydd Gwener Mawrth 27ain- mi fydd Plaid Cymru yn tanio’r ergyd gychwyn ar ein Hymgyrch Etholiad Cyffredinol.
Byddwn yn gwneud hyn gyda rali yng nghae ras Ffos Las am 11 o’r gloch lle bydd y drofa yn cael eu hannerch gan arweinydd ein plaid, Leanne Wood, yr Aelod Seneddol lleol Jonathan Edwards a chydlynydd ein hymgyrch, yr Arglwydd Dafydd Wigley.
Mi fydd yn ddigwyddiad byr ond gyffrous i ddangos i’r Cymry bod Plaid Cymru yn y ras am eu pleidlais ac yw'r unig blaid a fydd yn Gweithio dros Gymru yn y Senedd nesaf.
Caiff delweddau o’r rali eu darlledu at y teledu ledled Cymru a’r DU. Byddwn yn dangos mai Plaid Cymru yw’r dewis arall gadarnhaol sy’n barod i frwydro i roi terfyn ar lymder San Steffan sy’n niweidio ein cymunedau.
A ydych chi am fod yn rhan o’r digwyddiad cyffrous hwn? Cofrestrwch a rhannwch gyda’ch ffrindiau.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!