"Mae angen arian HS2 ar rheilffyrdd Sir Gar” - Plaid Cymru
Mae cost llinell HS2 o Lundain wedi chwyddo eto i £66biliwn posib. Gyda Chymru yn dal heb geiniog o'r £4bn o gyllid sydd yn ddyledus, mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi galw ar Llywodraeth Llafur Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad i beidio ystyried her cyfreithiol.
Mewn ateb ysgrifenedig i Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorewerth, cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol Llafur fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio dilyn her cyfreitihol - penderfyniodd a ddisgrifiood Mr ap Iorwerth yn "ildio yn llwyr"
Dywedodd Rhun ap Iorwerth:
“Rydym yn gwybod fod y Llywodraeth Toriaidd eisiau rhoi cyfyngiadau llym ar gyllid Cymru, ac eu bod yn benderfynol o'n hatal trwy peidio ail-ddiffinio HS2 fel prosiect Lloegr yn unig.
Ond roeddem yn disgwyl gwell gan Llafur, y Blaid sydd yn honi ei bod yn "sefyll fynny dros Gymru".
Er gwaethaf honiadau Gweinidogion Llafur eu bod ar yr un och a Phlaid Cymru ar i diffyg tegwch yng nghyllideb HS2, ymddengys eu bod yn geiriau gwag pan welwn eu diffyg ymdrech ar y mater."
Aelod o'r Senedd dros Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price MS:
“Mae rheilffyrdd Sir Gar angen buddsoddiad brys. Rwyf wedi siarad gyda etholwyr di-ddiwedd am wasanaethau gwael yn yr etholaeth. Gallai'r arian sy'n ddyledus i Gymru fod yn ddigon i draws-newid ein rheilffyrdd, nid yn unig yn Sir Gar ond dros Gymru gyfan.
Cllr Ann Davies, ymgeisydd Plaid Cymru dros Caerfyrddin:
“Mae'n teimlo fel pe bai Plaid Cymru yn unig sydd yn fodlon herio San Steffan ar y mater ma. Mae angen buddsoddi yn rheilffyrdd Sir Gar; mae'r ffaith fod tref fel Sancler heb orsaf ei hun yn ffars llwy. Byddwn yn parhau i frwydro dros yr arian sy'n ddyledus i Gymru."