Achubwch Goleg Rhydaman

coleg.png

Mae Coleg Sir Gâr, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn bwriadu cau Coleg Rhydaman.

Mae hyn wedi achosi pryder sylweddol yn y dref a'r cymunedau cyfagos, a fydd yn colli sefydliad allweddol os bydd y cynlluniau hyn yn mynd yn eu blaen. Mae'r coleg wedi bod yn y dref ers bron i 100 mlynedd ac wedi goroesi sawl cyfnod o galedi, byddai ei gau nawr yn ergyd drom i genedlaethau'r dyfodol Dyffryn Aman.

Arwyddwch ein deiseb i atal cau Coleg Rhydaman a'n helpu i ddangos cryfder gwrthwynebiad i'r cynlluniau hyn.

>>> Arwyddo'r Ddeiseb <<<

(dolen i wefan Adam Price)

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.