Mae gwleidyddion lleol wedi mynegi eu sioc ar ol dysgu fod Llywodraeth Llafur Cymru yn cefnogi cynlluniau i gau Coleg Rhydaman.
Mewn llythyr at Adam Price AS, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles MS fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad gan Coleg Sir Gar fyddai'n arwain at cau campws Rhydaman. Rydym ar ddeall fod penderfyniad ar y prosiect i'w wneud yn fuan, gan gynnwys buddsoddiad yng Nghampws Coleg Sir Gar ym Mhibwrlwyd.
Mae Campws Rhydaman, a sefydlwyd yn 1927, yn darparu cyrsiau ar iechyd, gofal plant a chymdeithasol, yn ogystal â chrefftau o fyd adeiladu. Fe fydd y coleg, sydd yn cynnig cyrsiau o gwnsela i blastro, yn gorfod cael ei gau fel rhan o gynlluniau disgrifiwyd fel "rhesymoli o ystâd y coleg" gan y Gweinidog.
Yn y llythyr, aiff y Gweinidog ymlaen i ddisgrifio campws Rhydaman fel un "mewn cyflwr gwael, sydd yn gostus i'w gynnal". Mae'r datblygiad gan Goleg Sir Gar trwy'r model Buddsoddi Ar Y Cyd, sy'n gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y prosiect gyda'r coleg. Ymddengys o'r llythyr fod y Gweinidog yn gefnogol o'r prosiect, er iddo fod yn ymwybodol fyddai'n arwain at gau Campws Rhydaman.
Dywedodd Adam Price, Aelod y Senedd dros Dwyran Caerfyrddin a Dinefwr: "Mae Coleg Rhydaman wedi bod yn sefydliad allweddol yn y dref am dros 100 mlynedd; fyddai ei golli mewn oes o lymder ac ansicrwydd economaidd yn ergyd greulon i unrhyw gymuned, ond i un o gymunedau mwyaf difreintiedig ein gwlad mae'n weithred o fandaliaeth gymdeithasol. Doedd hyd yn oed Mrs Thatcher wedi ystyried mor bell â hyn. Sut yn y byd gall Llywodraeth Llafur Cymru cefnogi'r golled o ddarpariaeth addysg bellach yn Rhydaman? Mae'r penderfyniad yma'n hynod o niweidiol i'r dref, a galwaf ar y Gweinidog i ail-ystyried ei gefnogaeth."
Cefin Campbell, aelod y Senedd dros Gorllewin a Chanolbarth Cymru: "Mae safbwynt Llywodraeth Cymru ar gau'r coleg yn siomedig. Fe ddylen nhw fod yn sefyll fynny dros cymunedau fel Rhydaman, nid cau sefydliadau sydd wrth galon y dref. Fe fydd y penderfyniad yma'n amhoblogaidd tu hwnt yn Nyffryn Aman ac rwy'f o'r farn fod angen i'r Gweinidog ystyried yr effaith hir dymor ar ddisgyblion yn leol.
Ann Davies, Cynghorydd Sir Llanddarog ac Ymgeisydd Plaid Cymru dros sedd Caerfyrddin: “Dyma dystiolaeth bellach o Lywodraeth Cymru yn rhoi'r gorau i'n cymunedau. Mae Coleg Rhydaman yn cynnig gwasanaeth arbennig i ddisgyblion yn yr ardal, a fyddai cau'r campws yn ergyd enfawr i'r genhedlaeth nesaf yma. Pa neges ydyn ni'n danfon i'n plant os oes rhaid iddynt deithio i ffwrdd o'r dref yma i dderbyn addysg bellach?