Gwleidyddion Lleol yn croesawu newidiadau GreenGen, ond "mwy i'w wneud"

Mae glweidyddion lleol wedi croesawu'r newyddion fod GreenGen wedi newid eu cynllun peilonau Tywi-Usk i tanddaearu rhan o'r linell, ond wedi parhau a'r alwadau i tanddaearu y linell gyfan.

Wythnos yma, cyhoeddodd GreenGen fod darn fechan o'r linell rhwng Llanegwad a Llanarthne, am gael ei rhoi o dan y ddaear. Mewn datganiad, cadarnhawyd:

“Following the first round of consultation in spring 2023 where we asked people for their views on our preferred route for Green GEN Towy Usk, we re-examined our preferred route from an environmental, technical, and economic perspective to see if we could make changes based on the feedback received and our own further assessments and site visits… Following this work, we identified a draft route alignment (including potential pole and pylon positions) within the reviewed preferred route.

The draft route alignment takes account of the feedback we received from communities and stakeholders, and includes consideration of biodiversity, the landscape and views, cultural heritage, woodlands, flood risk, geology and soils, other land uses, and technical needs.”

 

Ers i'r llinell peilonau cael ei gyhoeddi yn 2023, mae gwrthwynebiad sylweddol wedi bod gan gymunedau lleol ar hyd y llinell arfaethedig, a gan wleidyddion lleol sydd wedi galw i'r llinell cael ei rhoi o dan y ddaear.

Yn dilyn y datganiad diweddaraf, dywedodd Adam Price MS, Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:

“Rwy'n hapus fod Green Gen wedi cydnabod o'r diwedd fod tanddaearu yn opsiwn i linell y Tywi-Usk.

Mae'r diweddariad yma yn dangos y ddylanwad gallwn ni gael ar y broses, ac fe fyddai'n parhau i alw i'r prosiect cyfan yma cael ei dan ddaearu er mwyn arbed prydferthwch Dyffryn Tywi.

 

Cefin Campbell, AS dros Canolbarth a Gorllewin Cymru:

Yn gynharach mis yma yn y Senedd, ar ol herio'r Prif Weinidog, cadarnhaodd mai polisi Llywodraeth Cymru oedd "tanddaearu llinellau trydan lle bynnag posib."

Tra fy mod yn croesawu'r penderfyniad yma gan GreenGen am rhan o'r linell, byddaf yn parhau i ddadlau'r achos dros tanddaearu, yn unol a arferion gorau yn y D.U ac Ewrop."

 

Cllr Ann Davies, sy'n cynrychioli Llanddarog, ac ymgeisydd Plaid Cymru dros Caerfyrddin:

“Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyd wedi cwrdd â chymunedau ar hyd y llinell arfaethedig, ac mae'r neges wedi bod yn glir - rhaid rhoi'r llinell o dan y ddaear. Mae'r datblygiad yma yn y stori yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond rhaid gwneud mwy i sicrhau bod y llinell gyfan yn cael ei ystyried, yn enwedig yn Nyffrynnoedd y Tywi a'r Teifi."

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.