Na i Beilonau Dyffryn Tywi

peilons.png

Mae’n siŵr eich bod yn ymwybodol erbyn hyn o’r cynlluniau gan Bute Energy i sefydlu coridor o beilonau a gwifrau trydan yn cysylltu fferm wynt yn y Canolbarth i’r Grid Cenedlaethol, a hynny drwy Ddyffryn Tywi.

Mae’r cynnig hwn wedi creu cryn dipyn o ofid yn yr ardal leol, oherwydd ei effaith gweledol ar y dyffryn, sydd yn enwog am ei harddwch a’i dirwedd brydferth.

Tra ein bod yn llawn sylweddoli’r angen am fwy o ynni adnewyddadwy, rydym o’r farn bod modd cludo’r ynni yma drwy wifrau o dan y ddaear, a fyddai’n sicrhau ffynhonnell newydd o egni gwyrdd tra hefyd yn parchu’r gymuned leol a threftadaeth yr ardal.

Arwyddwch ein deiseb, sy’n galw ar osod y gwifrau yma dan y ddaear, a dangoswch nad ydym yn barod i dderbyn peilonau ar hyd Dyffryn Tywi.

>>> Arwyddo'r Ddeiseb <<<

(dolen i wefan Adam Price)

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.